SL(5)301 – Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/421 (Cy. 89)).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, yn rhinwedd adran 20(3) mae’n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yn rhinwedd adran 20(6), ystyr “tanwydd awdurdodedig” yw tanwydd y datganwyd drwy reoliadau ei fod wedi ei awdurdodi. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(vii) (gwahaniaethau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg)  mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ym mharagraff 71(c) o’r Atodlen, mae’r testun Cymraeg yn pennu maint o “rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau o hyd”.  Mae’r testun Saesneg cyfatebol yn pennu ystod o 30-130 o filimetrau.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

 

 

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

18 Ionawr 2019